Dinasoedd Cymru

Gweler hefyd: Prifddinas Cymru

Mae gan Gymru saith dinas. Bangor yw dinas gadeiriol hynaf Cymru, a Tyddewi yw dinas leiaf y Deyrnas Unedig.[1] Caerdydd yw prifddinas Cymru a'r ddinas fwyaf poblog, ac Abertawe yw'r ail fwyaf poblog. Ers 2000, mae trefi Cymru wedi cyflwyno ceisiadau i ennill statws dinas fel rhan o ddathliad megis dathliadau’r mileniwm, gyda Chasnewydd, Llanelwy a Wrecsam yn cael statws dinas drwy’r cystadlaethau hyn. Wrecsam yw’r mwyaf diweddar i ennill y statws, ac fe’i dyfarnwyd ym mis Medi 2022.

 

  1. "Dinasoedd Cymru". Wales. 2019-07-10. Cyrchwyd 2023-10-23.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search